Featuring:
Giulia Ballaré
Concert and Masterclass
Llun 29ain – Mercher 31ain Gorffennaf
Cwrs: Dechrau Canu'r Gitâr
Graddau 0 to 3 - £70
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr oed 7 neu'n hŷn. Yn ystod y cwrs tridiau, fe fydd y myfyrwyr yn cyfansoddi eu darnau unigryw eu hunain, chwarae cerddoriaeth ensemble ac archwilio cerddoriaeth linynnol o bedwar ban y byd.
Mawrth 23ain – Iau 25ain Gorffennaf
Cwrs: Gitâr Canolradd
Graddau 3 to 7 - £70
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr oedran 11 neu'n hŷn. Yn ystod y tridiau, fe fydd cyfranogwyr yn mwynhau'r profiad unigryw o weithio ar y cyd gyda'n Cyfansoddwyr Preswyl Gerard Cousins i greu darn newydd ar gyfer ensemble gitâr. Yn ogystal, byddant yn archwilio traddodiad a cherddoriaeth fflamenco ar gyfer phedwarawdau gitâr a thrios.
Gwe 26ain – Sul 28ain Gorffennaf
Cwrs: Gitâr Uwch
Graddau 7+ - £140
Mae ein prif gwrs gitâr yn gyfle i weithio gydag ystod eang o artistiaid cyngerdd a thiwtoriaid yr Ŵyl. Ceir cyrsiau meistri ac/neu weithdai gyda phob perfformiwr, gwersi un-i-un, chwarae ensemble, cyfleoedd rhwydweithio, a hyd yn oed sesiwn am yrfaoedd cerddorol, mae'n sicr o fod yn ddigwyddiad ysbrydoledig.
Cyrsiau
Y ffordd orau i brofi Gŵyl Gitâr Caerdydd yw mynychu un o'n cyrsiau haf. Mae yna gwrs ar gyfer pawb yno - o'r gitarydd ifanc i'r rheiny sy'n fwy profiadol, ac aeddfed! Gweler isod am yr amserlen lawn a sut i archebu. Mae'r holl gyfranogwyr yn cael mynediad rhad ac AM DDIM i bedwar cyngerdd proffesiynol eithriadol sy'n rhan o docyn i'r Ŵyl.
Beth Sydd Ymlaen!
Sul 28ain Gorffennaf 1yp
Yn ôl Acoustic Magazine, mae Gerard Cousins yn chwaraewr gitâr anghyffredin: mae'n feistr o'r idiom glasurol ac yr ystod o dechnegau sydd eu hangen ynddi, ac yr un mor gartrefol yn ail-drefnu cyfansoddwyr avant-garde, neu yn crefftio ei ddarnau angerddol ei hun ac ymestyn tuag at gyfeiriadau annisgwyl ...mae Cousins wedi cyrraedd pwynt rhyfeddol lle mae ei weledigaeth syfrdanol yn cydweddu â'i weledigaeth artistig.